Croeso i chwi i dudalennau gwefan Ysgol Cefn Coch.

Lleolir Ysgol Cefn Coch ym mhentref Penrhyndeudraeth yng Ngwynedd. Y Gymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol. Mae 157 disgybl rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr, yn cynnwys 20 oed meithrin rhan-amser. Fe’u rhennir yn 7 dosbarth. Arolygwyd yr ysgol ddiwethaf ym mis Mehefin 2018 lle rhoddwyd barn arolygu cyffredinol o ragorol.

Ym mis Medi 2022 bu i Ysgol Cefn Coch ac Ysgol Talsarnau ffederaleiddio ar ôl cydweithio’n agos ers 2016. Sefydlwyd y ffederasiwn, a elwir yn Ffederasiwn Ysgolion Afon Dwyryd, i gryfhau’r cydweithredu a chydweithio rhwng y ddwy ysgol. O dan y Ffederasiwn, maent bellach yn rhannu’r un Pennaeth strategol ac un Corff Llywodraethu. Er bod yr ysgolion yn cydweithio’n agos, mae ganddynt dal eu hunaniaethau unigol eu hunain a gwisgoedd gwahanol, sydd yn adlewyrchu eu nodweddion a’u traddodiadau unigryw. Mae’r Ffederasiwn wedi creu partneriaeth gref, gan alluogi’r ysgolion i elwa ar a rhannu adnoddau ac arbenigedd ei gilydd yn ogystal â  gweledigaeth unedig er mwyn darparu addysg o ansawdd uchel i’n dysgwyr.