Ein Cwricwlwm
Mae’r byd yn newid ac mae angen syniadau newydd a defnydd creadigol o dechnoleg. Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn, rydym ni yma yn Ysgol Cefn Coch eisiau gwneud yn siŵr bod gan eich plentyn y wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau y bydd eu hangen arnyn nhw i wneud y gorau o’u bywydau. Mae’r athrawon wedi bod yn cydweithio i ddatblygu cwricwlwm newydd i’n hysgolion sydd yn gwireddu holl elfennau o Gwricwlwm i Gymru.
Y Pedwar Diben
Mae’r pedwar diben yn ganolbwynt i Gwricwlwm i Gymru ac yn graidd i fywyd a gwaith ein hysgolion. Bydd yr ysgol yn helpu eich plentyn i fod yn:
- ddysgwr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
- cyfrannwr mentrus, creadigol, sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
- dinesydd egwyddorol, gwybodus, sy’n barod i chwarae rhan yng Nghymru a’r byd, ac
- unigolyn iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelod gwerthfawr o gymdeithas.
Meysydd Dysgu a Phrofiad
Mae chwe maes dysgu a phrofiad i’n Cwricwlwm. Bydd popeth mae eich plentyn yn ei ddysgu yn gysylltiedig â’r meysydd hyn. Mae’r meysydd dysgu a phrofiad yma yn gyffredin i blant o 3-16 oed. Isod mae disgrifiad byr ohonynt.
Celfyddydau Mynegiannol
Yn y Celfyddydau Mynegiannol, bydd eich plentyn yn archwilio celf, dawns, drama, ffilm, cyfryngau digidol a cherddoriaeth i ddatblygu ei sgiliau creadigol, artistig a pherfformio. Rydym yn credu yn gryf mewn ysgogi creadigrwydd a dychymyg y disgyblion. Ceir cyfle i ymchwilio a dysgu am artistiaid yn yr ardal leol a thu hwnt, gan ddatblygu technegau a sgiliau gyda phrofiadau ymarferol.
Y Dyniaethau
Yn y Dyniaethau bydd yn dysgu am y byd, cymdeithas a digwyddiadau yn y gorffennol a’r presennol. Bydd yn archwilio’r heriau a’r cyfleoedd sy’n ein hwynebu, a pha gamau egwyddorol y gallwn eu cymryd i ddiogelu’r byd a’i bobl yn y dyfodol. O fewn y maes dysgu a phrofiad Dyniaethau rhoddir cyfleodd i’r dysgwyr ddysgu am hanes, daearyddiaeth a chrefyddau. Maent hefyd yn dysgu am fusnes a gwleidyddiaeth h.y. sut mae’r wlad yn cael ei rhedeg, a hefyd am y gymdeithas a sut mae pobl yn ein gwlad yn byw gyda’i gilydd.
Mathemateg a Rhifedd
Yn Mathemateg a Rhifedd, bydd eich plentyn yn datblygu dealltwriaeth o rifau ac yn defnyddio symbolau mewn mathemateg. Bydd yn archwilio siapiau a mesuriadau ac yn dysgu am ystadegau a thebygolrwydd.
Mae syniadau a thechnegau mathemategol yn rhan hanfodol o fywyd pob dydd ac yn cyfrannu’n sylweddol at ein dealltwriaeth o’r byd o’n cwmpas. Amcenir yn yr ysgol at ddatblygu agwedd bositif tuag at fathemateg fel pwnc diddorol i’w fwynhau. Ceisiwn ddatblygu yn y plentyn y gallu i feddwl yn glir ac yn rhesymegol gyda hyder ac ystwythder fydd yn arwain at y ddawn i fynegi syniadau’n glir, i drafod y pwnc gyda sicrwydd ac i ddefnyddio iaith fathemategol a’i gymhwyso i sefyllfaoedd yn y cartref yr ysgol a’r gymdeithas.
Iechyd a Lles
Mae Iechyd a Lles yn ymwneud â gofalu am iechyd corfforol a meddyliol gan gynnwys lles emosiynol. Bydd yn dysgu am fwyta’n iach a sut i wneud penderfyniadau da, delio â dylanwadau a datblygu cyd-berthnasoedd iach.
Mae Iechyd a Lles yn ganolog i’n cwricwlwm ac wedi ei ddatblygu ar draws yr holl feysydd. Mae’r maes dysgu a phrofiad hwn yn sicrhau cyfleodd i ddysgwyr ddysgu am gael corff iach, a meddwl iach. Maen hefyd yn cael cyfleoedd i ddeall beth yw perthnasoedd iach a sut i wneud penderfyniadau bywyd da.
Mae plant yn dysgu am eu hunain, eu perthnasau gyda phlant ac oedolion eraill a sut i fod yn aelodau positif o’n cymuned. Anogir hwy i ddatblygu hunan-barch, eu credoau personol a gwerthoedd moesol, ac ennill ymwybyddiaeth bositif o ddiwylliant eu hunain a diwylliannau eraill. Addysgir plant yn gynnar am gadw’n ddiogel o fewn y gymuned, sydd hefyd yn cynnwys pwysigrwydd E-ddiogelwch.
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Yn Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, bydd eich plentyn yn dysgu am ieithoedd. Bydd yn deall ac yn defnyddio Cymraeg, Saesneg ac ieithoedd eraill. Bydd yn astudio ac yn creu llenyddiaeth, ac yn cyfathrebu mewn ffyrdd llafar, ysgrifenedig neu weledol. Gallai hyn gynnwys barddoniaeth, drama a ffilm.
Ceisiwn feithrin agwedd gadarnhaol at iaith drwy gynnig i blentyn amrywiol brofiadau a fydd yn symbylu ymateb synhwyrol, bywiog a deallus a fydd yn datblygu gallu ieithyddol plentyn yn ei holl agweddau goddefol a gweithredol – a hynny yn y ddwy iaith. Byddwn yn meithrin diddordeb plentyn mewn llenyddiaeth yn ei hamryfal ffurfiau gan sicrhau bod y profiad o ddarllen, gwrando, gwylio ac ymateb bob amser yn bleserus ac yn foddhaus. Drwy wneud hyn, byddwn yn creu yn y plentyn ymwybyddiaeth o werth yr etifeddiaeth Gymreig fel y gall ymdeimlo â chyfoeth ei gefndir a pharchu gwahanol ddiwylliannau. Yn gryno, byddwn yn datblygu pedair elfen ieithyddol, sef gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu.
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Yn Gwyddoniaeth a Thechnoleg bydd eich plentyn yn dysgu am bioleg, cemeg, ffiseg, cyfrifiadureg a dylunio a thechnoleg. Bydd yn dysgu am ddylunio a pheirianneg, pethau byw, mater, grymoedd ac egni, a sut mae cyfrifiaduron yn gweithio.
Elfennau Eraill o'n Cwricwlwm
Yn ogystal â’r chwe maes dysgu a phrofiad, mae cwricwlwm ein hysgolion yn rhoi pwyslais ar:
- Y Gymraeg
- Saesneg o 7 mlwydd oed
- Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (gan gynnwys manylion y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb)
- Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg
- Sgiliau trawsgwricwlaidd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol
Addysg cydberthynas a rhywioldeb:
Mae pwnc Addysg cydberthynas a rhywioldeb yn cael ei addysgu gyda sensitifrwydd. Nid yw’n bwnc ar wahân ond wedi’i integreiddio i’r ddarpariaeth addysg bersonol, gymdeithasol ac iechyd. Mae’n galw am fod yn agored yn yr ystafell ddosbarth ac atebion gonest i gwestiynau wrth iddynt godi o wersi unigol yn hytrach na gwersi unigol sy’n cael eu neilltuo i’r pwnc gyda’r dosbarth cyfan. Dylai pwysigrwydd bywyd teuluol a pherthnasau cariadus a gofalgar yn y cyd-destun hwnnw fod yn nodwedd ganolog o’r agwedd hon ar y Cwricwlwm. Os oes unrhyw riant yn pryderu am yr agwedd hon o’r cwricwlwm, yna mae croeso i chi ei drafod gyda’r Pennaeth.
Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ac Addoli Cyfunol
Mae gwasanaethau ysgol gyfan a gwersi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn agwedd bwysig o ethos ein hysgolion. Mae’r agwedd grefyddol wedi ei gysylltu â phrofiadau’r plant yn eu bywydau bob dydd, gan bwysleisio ar agweddau allgarol a gofalgar crefydd. Mae’r gwasanaethau eraill sy’n cael eu cynnal yn y dosbarth hefyd yn agweddau pwysig er mwyn datblygu’r teimlad o gymuned. Addysgir plant am wahanol grefyddau gyda phwyslais ar Gristnogaeth.
Cynllunio Ein Cwricwlwm
Yma, yn Ysgol Cefn Coch, defnyddir cyfuniad o ddulliau o gynllunio’r cwricwlwm yn unol â’r gofyn, oedran y dysgwyr a chyd-destun y dysgu. Bydd elfennau o gynllunio ar gyfer addysgu uniongyrchol, disgyblaethol ac amlddisgyblaethol yn digwydd er mwyn dysgu ac ymarfer sgiliau penodol e.e. sgil mathemateg, ffoneg.
Defnyddir elfennau rhyngddisgyblaethol ac integredig er mwyn ymarfer sgiliau ymhellach a’u cymhwyso mewn gwahanol gyd-destunau trawsgwricwlaidd e.e. tynnu elfennau o Fathemateg, Iaith, Cymhwysedd Digidol a gwyddoniaeth at ei gilydd wrth ymchwilio i ac ysgrifennu adroddiad yn cymharu anifeiliaid sy’n byw ar dir ac yn y môr.
Cynllunnir y rhan fwyaf o brofiadau dysgu’r ysgol hon ar sail dysgu trwy brosiect neu Gwestiwn Mawr ( e.e. Sut mae pobl yn dangos eu bod yn perthyn?) neu thema benodol ( e.e. Owain Glyndŵr, Parc Cenedlaethol Eryri).
Mae llais y plentyn, eu teuluoedd a’r gymuned yn bwysig i ni ac mae hyblygrwydd yn ein cynllunio i ddilyn trywydd gwahanol/lleol/ byd eang fel y bydd cyfle’n codi er mwyn gwneud ein profiadau dysgu yn berthnasol, diddorol ac amserol.
Wrth gynllunio rydym am sicrhau bod ein dysgwyr yn cael profiadau dysgu o ansawdd uchel, cyfoethog, eang a chytbwys. Rydym hefyd yn bwriadu sicrhau bod ein darpariaeth a’n haddysgu yn datblygu’r sgiliau cyfannol, sy’n hanfodol i gyflawni’r pedwar diben.
Addysgeg
Mae addysgu ardderchog yn hanfodol os ydym am wireddu’r pedwar diben, ein gweledigaeth fel ysgol a gofynion Cwricwlwm i Gymru.
Rydym yn ystyried, yn rhannu ac yn datblygu ein dulliau addysgu’n barhaus. Mae hyn yn seiliedig ar ein dealltwriaeth o’r deuddeg egwyddor addysgeg ac ar y dulliau yr ydym ni’n eu canfod yn llwyddiannus yn ein hysgolion.
Mae sicrhau amgylchedd dysgu o’r radd flaenaf yn greiddiol i ni yma yn Ysgol Cefn Coch. Gwneir hyn drwy sicrhau cysondeb ar draws yr ysgol a chreu ethos diogel a symbylus fel bod ein dysgwyr yn mentro ac yn gwerthfawrogi camgymeriadau fel cam hanfodol yn eu dysgu. Mewn amgylchedd ddiogel a symbylus mae ein dysgwyr yn dysgu mewn awyrgylch o barch a gwerthfawrogiad o ymdrechion pawb.
Asesu
Bydd asesu yn rhan o ddysgu eich plentyn bob dydd. Bydd plant yn gweithio gyda’u hathrawon i ddeall pa mor dda maen nhw’n gwneud. Mae hyn yn bwysig i’w helpu i:
- weld ble maen nhw arni yn eu dysgu
- cynllunio eu camau dysgu nesaf
- sylwi ar unrhyw broblemau neu gymorth ychwanegol sydd ei angen.
ac i helpu’r athro i:
- ddod o hyd i ffyrdd i’w herio a
- gweld pa mor dda mae disgyblion yn gwneud.
Bydd yr ysgol hefyd yn gweithio gyda chi i wneud yn siŵr bod eich plentyn yn cael yr help sydd ei angen i symud ymlaen.
Cwynion Ynglyn a'r Cwricwlwm
Gellir gwneud cwynion ynglŷn â’r Cwricwlwm yn unol â’r trefniadau a sefydlwyd o dan Adran 409 o Ddeddf Diwygio Addysg 1996. Mae’r drefn hon wedi ei hamlinellu mewn dogfen bwrpasol yn y Gymraeg a’r Saesneg sydd ar gael yn yr ysgol. Darperir copi’n rhad ac am ddim, yn ôl y gofyn, i unrhyw rieni sy’n dymuno gwneud cwyn dan y trefniadau hyn a gall yr Awdurdod ddarparu copi mewn iaith heblaw‘r Gymraeg a’r Saesneg os bydd hynny’n angenrheidiol
Pwysleisir, fodd bynnag, y gellir ymdrin â llawer o gwynion yn gyflym ac effeithiol drwy ystyriaeth anffurfiol yn seiliedig ar drafodaethau gyda’r Pennaeth. Hwn yw’r cam rhesymol cyntaf, a bydd y Corff Llywodraethu yn disgwyl bod y cam yma wedi ei gyflawni cyn cyflwyno’r gŵyn yn ffurfiol mewn achosion eithriadol.
Dylid cysylltu â’r ysgol i wneud apwyntiad i drafod unrhyw gŵyn gyda’r Pennaeth.