Polisi Iaith
Mae Awdurdod Addysg Gwynedd yn gweithredu polisi dwyieithog trwy holl ysgolion Gwynedd a hefyd yn datblygu polisi dwyieithog ar gyfer sefydliadau Addysg Bellach.
Yr amcan yw datblygu gallu disgyblion a myfyrwyr y sir i fod yn hyderus ddwyieithog er mwyn eu galluogi i fod yn aelodau cyflawn o’r gymdeithas ddwyieithog y maent yn rhan ohoni.
Dylai holl sefydliadau addysg y sir adlewyrchu ac atgyfnerthu’r polisi iaith yn eu gweinyddiad, eu bywyd cymdeithasol a’u trefn fugeiliol yn ogystal ag yn eu darpariaeth academaidd.
Amcanion Penodol
Addysg Feithrin
Sicrhau trwy ddarpariaeth a threfniadaeth feithrin bwrpasol a sensitif, y rhoddir i bob plentyn sylfaen gadarn yn y Gymraeg er mwyn ei alluogi i gyrraedd y nod o ddwyieithrwydd llawn maes o law.
Derbyn i Flwyddyn 2
Adeiladu ar y sylfeini a osodwyd i’r Gymraeg drwy addysg feithrin. Cadarnhau a datblygu mamiaith y plentyn sy’n dysgu Cymraeg ac ymestyn gafael y plentyn o gartref Cymraeg ar ei ail iaith yntau, sef y Saesneg.
Blwyddyn 3 i 6
Cadarnhau a datblygu Cymraeg a Saesneg pob plentyn yn eu holl agweddau goddefol a gweithredol, er mwyn sicrhau ei fod yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu’n rhwydd ac yn hyderus yn y ddwy iaith pan fo’n trosglwyddo i’r ysgol uwchradd. Gwneir darpariaeth arbennig ar gyfer hwyr-ddyfodiaid iau. Pan fydd angen, ac os bydd y rhieni’n cydsynio cânt fynychu’r Uned Iaith leol.
Amddiffyn Plant
Mae pob aelod o staff ein hysgolion yn gyfrifol am ddiogelu ac amddiffyn y plant sy’n ei mynychu. Os ceir pryderon ynglŷn ag esgeulustra neu gam-drin corfforol, emosiynol neu rywiol, yna mae’n ddyletswydd ar y staff, yn unol â Chanllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008, i sôn am y mater wrth Gyd-gysylltydd Diogelu Plant yr Ysgol.
Gall Cyd-gysylltydd yr ysgol ymgynghori â chyd-weithwyr proffesiynol yn ogystal ag asiantaethau perthnasol megis y Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol. Yn dilyn y trafodaethau hyn, efallai y bydd rhaid i gyd-gysylltydd yr Ysgol gyfeirio’r plentyn yn swyddogol i’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, yn unol â chanllawiau a phrotocol y sir. Yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n penderfynu a oes angen gweithredu neu beidio. Oblegid natur y cyhuddiadau, ni fydd bob amser yn briodol i drafod materion gyda’r rhieni cyn cyfeirio’r plentyn. Y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Heddlu sy’n gyfrifol am ymchwilio i gyhuddiadau.
Y Pennaeth, Gwion Wyn Owens, yw Person Dynodedig Diogelu Plant Ysgolion Ffederasiwn Afon Dwyryd; ac yn ei absenoldeb ar safle Ysgol Cefn Coch, bydd Esyllt Rhys (Dirprwy Bennaeth), Arwel Hughes, (athro Blwyddyn 6) ac Eleanor Griffiths (athrawes Blwyddyn 1) yn ymgymryd a’r rôl.
Y Llywodraethwr gyda chyfrifoldeb am ddiogelu plant yw Meryl Roberts/Gwynfor Owen.
Yr Uwch Swyddog Diogelu Plant yn yr adran addysg yw:
Bethan Helen Jones
Rhif ffôn: 07977504344
Polisi Gwrth-fwlio
Mae hawl sylfaenol gan holl aelodau’r ysgol gael eu parchu gan bawb ac i brofi bywyd hapus yn yr ysgol. Mae unrhyw fath o fwlio yn hollol annerbyniol. Mae’r ysgol yn ymateb yn gadarn ac yn drylwyr i bob achos o fwlio. Gwnaiff yr ysgol pob ymdrech i sicrhau nad yw bwlio yn digwydd.
Mae Cyngor yr Ysgol yn cyfarfod yn gyson gyda’r Pennaeth a thrafod unrhyw faterion sy’n effeithio ar eu hawliau fel unigolion.
Dylid cysylltu â’r ysgol ar unwaith pan fo rhieni yn pryderu am achosion o fwlio.
Ymddygiad a Rheolau'r Ysgol
Disgwylir i bob plentyn ymddwyn yn dderbyniol ac fel aelod o gymdeithas o fewn yr ysgol. Fe’u hanogir i ystyried ac i barchu hawliau ac eiddo pobl eraill. Bydd unrhyw gosb a weinyddir yn rhesymol a chymedrol yn unol â chanllawiau’r Awdurdod Addysg.
Mae’r ysgol yn hybu hunan ddisgyblaeth yn unol â nodau ac amcanion yr ysgol. Dyma yw ein tri prif rheol:
- Parchu eich hunain, eich gilydd, staff ac eiddo.
- Bod yn ddiogel.
- Bod yn barod i ddysgu.
Rydym yn ystyried ‘llais y dysgwr’ yn bwysig a mae’r rheolau uchod yn cael eu adolygu gan y Cyngor Ysgol yn reolaidd a’u cyflwyno i weddill y plant yn ystod gwasanaethau ysgol gyfan.
Dyma rhai o reolau eraill:
- Ni ddylid dod ag eitemau gwerthfawr i’r ysgol. Ni all yr ysgol gymryd cyfrifoldeb tros eiddo gaiff ei ddwyn neu ei ddifrodi.
- Ni chaniateir teganau o unrhyw fath yn yr ysgol. Gall y teganau gael eu torri’n ddamweiniol ac fe all hyn fod yn achos poen i’r plant.
- Fe ganiateir iddynt ddod â ffrwyth i fwyta yn ystod amser chwarae. Ni chaniateir i blant ddod â diodydd pop na melysion i’r ysgol.
- Disgwylir i blant edrych ar ôl eu llyfrau darllen, llyfrau llyfrgell, a’r holl ddefnyddiau neu gyfarpar sy’n digwydd bod yn eu gofal, boed yn yr ysgol neu adref .
- Ni ddylid cadw arian nac unrhyw beth gwerthfawr mewn cotiau a bagiau. Dylid eu rhoi i’r athrawon i’w cadw’n ddiogel.
Cyfleoedd Cyfartal
Prif athroniaeth ac amcanion yr ysgol yw rhoi cyfle cyfartal i bob plentyn gael addysg gymunedol mewn awyrgylch gartrefol a hapus ble mae gonestrwydd, urddas a gwerth pob unigolyn o’r pwysigrwydd mwyaf. Ymdrechir i roi cyfle cyfartal i bob disgybl ac aelod o staff ar bob adeg heb wahaniaethu ar sail rhyw, crefydd, lliw, iaith nac anabledd.
Manteisir ar bob cyfle i greu awyrgylch ddiogel a hapus i hybu plant i gyflawni eu potensial fel unigolyn ac i fagu sensitifrwydd tuag at anghenion eraill.
Mae dangos parch tuag at bob unigolyn yn hanfodol, wedyn gellir cyflawni llawer mwy nag amcanion addysgol yn unig. Ar bob achlysur disgwylir cefnogaeth y rhieni i ddatblygu agweddau corfforol, addysgiadol, moesol a chymdeithasol bob plentyn.
Disgyblion Sydd Ag Anableddau
Mae’r ysgol yn sensitif i anghenion disgyblion sydd ag anableddau ac yn gwneud pob ymdrech i’w cynnwys ym mhob agwedd o fywyd a gwaith ein hysgolion.
Mae’r ysgol yn derbyn plant gydag unrhyw anabledd. Fel rhan o bolisi Mynediad i blant gydag Anableddau Gwynedd, byddai trefniadau addas yn cael eu gwneud yn yr ysgol pe bai plentyn gydag anabledd yn mynychu’r ysgol.
Cysyllter â’r Pennaeth am ragor o fanylion.
Darparu ar gyfer plant sy’n derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol
Mae gan bob plentyn yng ngofal yr awdurdod lleol yr hawl i gael mynediad i addysg cyn ysgol a holl wasanaethau addysg a derbyn pob cyfle a chymorth i ddatblygu’n addysgol ac yn gymdeithasol.
Y Pennaeth yw’r aelod o staff sydd wedi ei dynodi i dderbyn cyfrifoldeb penodol am ddisgyblion sydd yng ngofal yr awdurdod lleol.
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Ein nod yw datblygu dulliau o asesu manwl er mwyn adnabod anghenion penodol pob plentyn a threfnu rhaglen waith perthnasol ar ei gyfer. Mae’r ysgol hefyd yn ystyried disgyblion talentog neu sydd â gallu arbennig fel unigolion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Rhoddir enw pob plentyn ag Anghenion Dysgu Ychwanegol ar y Gofrestr ADY
Y Cydlynydd ADY yw Sara Elan Roberts a’r Llywodraethwyr dynodedig yw Gwynfor Owen.
Gweithredir y Côd ADY yn yr ysgol hon. Golyga hyn fod unrhyw ddisgybl sy’n profi anhawster dysgu o unrhyw fath yn derbyn cefnogaeth a’r ddarpariaeth angenrheidiol o fewn yr ysgol neu ymhellach gan yr Awdurdod Addysg Leol.
Asesir datblygiad y plant yn gyson wrth iddynt gyflawni tasgau yn yr ysgol ac os nad ydynt yn gweithio ar yr un lefel a’r disgwyliadau a’r targedau o fewn blwyddyn arbennig, fe’u gosodir ar un o’r camau o fewn y Côd ADY i dderbyn y gefnogaeth briodol.
Llunnir Cynlluniau Addysg Unigol ar gyfer disgyblion er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn y ddarpariaeth briodol i’w haddysgu ac i’w cefnogi. Trefnir Adolygiadau Blynyddol er mwyn i rieni drafod datblygiad yng ngwaith y plant hefo’r athro/awes dosbarth, staff cefnogol ac asiantaethau allanol.
Trefniadau ar gyfer ystyried cwynion am y ddarpariaeth ADY
Gall rhiant sydd â chwyn gysylltu â’r canlynol yn y lle cyntaf:
- y Cydlynydd ADY
- y Pennaeth
- cynrychiolwyr y rhieni ar y Llywodraethwyr
- y Llywodraethwraig / ŵr dynodedig anghenion dysgu ychwanegol
Os nad yw’r ffyrdd hyn yn cynnig ateb i’r gŵyn yna gall y rhiant ddilyn y sianelau isod neu fel a nodir ar dudalen 36:
Mae’r ddogfen Trefniadau lleol ar gyfer ystyried cwynion a wneir dan Adran 23 y Ddeddf Diwygio Addysg ar gael ym mhob Ysgol.
Absenoldebau Awdurdodedig ac Anawdurdodedig
Disgwylir i bob plentyn fynychu’r ysgol yn rheolaidd. Y mae rheoliadau parthed absenoldebau yn datgan fod yn rhaid i’r ysgol dderbyn eglurhad gan y rhieni pan fo plentyn wedi bod yn absennol o’r ysgol. Felly, er mwyn cyd-fynd a’r canllawiau hynny, rhaid derbyn eglurhad yn uniongyrchol gennych chwi, boed hynny drwy e-bost (meinir.jones@cefncoch.ysgoliongwynedd.cymru) neu dros y ffôn erbyn 9:15am, pan fydd eich plentyn yn absennol o’r ysgol.
Os na chawn wybodaeth cyn gynted ag y bo modd, bydd yr absenoldeb hwnnw yn cael ei nodi fel un “heb ei awdurdodi”. Hyd yn oed os derbynnir eglurhad gennych, mae’n bosibl y caiff yr absenoldeb ei nodi fel un “heb ei awdurdodi”, os nad yw’r eglurhad yn un derbyniol.
Gofynnir yn garedig i rieni cydymffurfio a’r argymhellion am absenoldebau salwch heintus Tîm Diogelu Iechyd GIG Cymru:
Gwyliau yn Amser Ysgol
Ni all unrhyw riant fynnu gwyliau ysgol fel hawl y plentyn. Dylai rhieni sy’n trefnu gwyliau ysgol tu allan i wyliau’r ysgol ystyried calendr yr ysgol ac oblygiadau hyn i’r plentyn.
Mae cylchlythyr y cynulliad yn pwysleisio bod rhaid i bob rhiant ofyn caniatâd i ddisgybl fynd ar wyliau yn ystod tymor ysgol. O dan reol deddf Addysg 1981, mae modd rhyddhau’r plentyn am wyliau teuluol gyda chaniatâd y Pennaeth, am hyd at 10 diwrnod yn ystod y flwyddyn addysgol.
Dim ond mewn eithriadau y rhoddir caniatâd am fwy na hyn. Ceir ffurflen caniatâd gwyliau gan ysgrifenyddes yr ysgol. Ni fydd staff yr ysgol yn paratoi gwaith ychwanegol i blant sydd yn colli’r ysgol oherwydd gwyliau tu allan i wyliau’r ysgol.
Cosb Sefydlog ar gyfer absenoldebau anawdurdodedig
Yn ôl y gyfraith, mae’n drosedd os yw rhiant/gofalwr yn methu sicrhau
presenoldeb eu plentyn yn yr ysgol a bod yr absenoldeb hwnnw heb ei
awdurdodi gan yr ysgol.
Mae adrannau 444A a 444B Deddf Addysg 1996 yn caniatáu bod rhai mathau o absenoldebau anawdurdodedig yn cael sylw pellach dan orchymyn rhybudd cosb.
Gall hyn arwain at ysgol yn cyfeirio absenoldebau anawdurdodedig i sylw’r Awdurdod Lleol yn gofyn am anfon Hysbysiad Cosb Sefydlog i’r cartref.
Mae’r polisi yma yn adlewyrchiad cywir o’r ddeddfwriaeth gyfredol ac fel ysgol, mae gennym ddyletswydd i’ch hysbysu chwi fel rhieni/gofalwyr/gwarcheidwaid. Mae manylion a gwybodaeth bellach ar gael gan
- Cyngor Sir Gwynedd
- Llywodraeth Cymru
Diogelu Data
Hysbysiad Preifatrwydd
(Sut ydym yn defnyddio gwybodaeth am ddisgyblion)
Mae’r categorïau gwybodaeth am ddisgyblion yr ydym yn eu casglu, eu dal a’u rhannu yn cynnwys:
- Gwybodaeth bersonol (megis enw, rhif unigryw disgybl a chyfeiriad)
- Nodweddion (megis ethnigrwydd, iaith, cenedligrwydd, gwlad enedigol a chymhwysedd pryd ysgol am ddim)
- Gwybodaeth am bresenoldeb (megis nifer y sesiynau a fynychwyd, nifer yr absenoldebau a rhesymau dros absenoldeb)
- Gwybodaeth am asesiadau
- Gwybodaeth feddygol berthnasol
- Gwybodaeth am Anghenion Addysgol Arbennig
- Gwybodaeth am waharddiadau/ymddygiad
- Gwybodaeth bersonol am rieni’r disgybl a/neu berthnasau eraill (megis enw, manylion cyswllt, perthynas â’r plentyn)
Pam yr ydym yn casglu a defnyddio’r wybodaeth hon
Rydym yn defnyddio data disgybl:
- i gefnogi addysg y disgybl
- i fonitro ac adrodd ar gynnydd y disgybl
- i ddarparu gofal bugeiliol priodol
- i asesu ansawdd ein gwasanaethau
- i gydymffurfio â’r gyfraith ynglŷn â rhannu data
- i rannu data ar gyfer archwiliadau statudol a dibenion archwilio
Y sail gyfreithlon pam yr ydym yn defnyddio’r wybodaeth hon
Rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth am ddisgyblion, staff a llywodraethwyr dan
- Rheoliadau Addysg (Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion) (Cymru) 2011
- Deddf Cyflogau a Thelerau Gwaith Athrawon 1991
- Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 2011
- Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Disgybl) (Cymru) 2011
- Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011
- Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb) (Cymru) 2011
- Cytundebau cyfunol Cenedlaethol Rhwng Cyngor Awdurdod Addysg Lleol ac Undebau Athrawon Cydnabyddedig
- Cytundebau Cyfunol Lleol Rhwng Awdurdod Addysg Gwynedd ac Undebau a Gydnabyddir gan yr Awdurdod ar gyfer trafodaethau ar ran Athrawon.
- Deddf Diogelu Data 1998
- Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012
- Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol A’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018
- Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014
- Ddeddf Iechyd a Diogelwch Wrth Waith ayb1974 (Health and Safety at Work, etc. Act, 1974)
- Deddf Cydraddoldeb / Equality Act 2010
- Gorchymyn Rheoleiddio (Diogelwch Tan)2005/ Regulatory Reform (Fire Safety) Order 2005 (ffurflenni PEEPS yn cael eu cwblhau ac mae rhain yn cynnwys manylion unrhyw anableddau sydd gan blentyn/staff)
- Erthygl 6(c) ac (e) ac Erthygl 9 (g) (GDPR)
- Gallwn hefyd ddefnyddio caniatâd ar adegau (e.e. ffotograffau)
Casglu gwybodaeth am ddisgyblion
Er bod y mwyafrif o wybodaeth am ddisgybl yr ydych yn ei darparu i ni yn orfodol, darperir ychydig ohoni i ni ar sail wirfoddol.
Er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data, byddwn yn eich hysbysu p’un a fydd yn ofynnol i chi ddarparu gwybodaeth benodol i ni am ddisgybl neu os oes gennych ddewis yn hyn.
Os darperir gwybodaeth i ni ar sail wirfoddol, byddwn yn gofyn i chi roi caniatâd penodol ac yn rhoi’r opsiwn i chi dynnu’r caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg.
Cadw data am ddisgyblion
Rydym yn cadw data am ddisgyblion am gyfnodau amrywiol o amser yn dibynnu beth yw’r wybodaeth. Mae cyfnodau cadw wedi’i gynnwys ym mholisi diogelu data yr ysgol.
Gyda phwy yr ydym yn rhannu gwybodaeth am ddisgyblion
Rydym yn rhannu gwybodaeth am ddisgyblion yn rheolaidd gyda:
- ysgolion a fynychwyd gan y disgyblion ar ôl ein gadael
- ein hawdurdod addysg lleol – Cyngor Gwynedd – Gwasanaethau – Cymdeithasol, Hamdden, Cludiant, Cyllid, Ieuenctid.
Asiantaethau a gomisiynir gennym i ddarparu gwasanaethau ar ein rhan:
- Llywodraeth Cynulliad Cymru (drwy HWB)
- Cwmni Cynnal
- Heddlu a Thîm Troseddu’r Ifanc
- Gwasanaethau Iechyd
- Antur Waunfawr (gwaredu deunyddiau cyfrinachol)
Cwmnïau Perthnasol sy’n hybu gweinyddiaeth a phrofiadau addysg disgylbion
- Urdd Gobaith Cymru
- CAPITA – SIMS
- School Gateway
- FFTrust
- Taith360
- School comms
- EVOLVE
Pam yr ydym yn rhannu gwybodaeth am ddisgyblion
Nid ydym yn rhannu gwybodaeth am ein disgyblion gydag unrhyw un heb ganiatâd, oni bai bod y gyfraith a’n polisïau yn caniatáu i ni wneud hynny.
Rydym yn rhannu data am ddisgyblion gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) ar sail statudol. Mae rhannu data yn y modd hwn yn tanategu cyllid yr ysgol a pholisi a monitro cyrhaeddiad addysgol.
Ysgolion a gynhelir:
Mae’n ofynnol i ni rannu gwybodaeth am ein disgyblion gyda’n hawdurdod lleol (ALl) Cyngor Gwynedd a Llywodraeth y Cynulliad dan: Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Disgybl) (Cymru) 2011
Gofynion casglu data:
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Disgybl) (Cymru) 2011
Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb) (Cymru) 2011
Gofyn am fynediad at eich data personol
Dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gan rieni a disgyblion yr hawl i ofyn am fynediad at y wybodaeth yr ydym yn ei chadw amdanynt. Er mwyn gwneud cais am eich gwybodaeth bersonol, neu ofyn am fynediad at gofnod addysgol eich plentyn, cysylltwch â: –
Gwion Wyn Owens Pennaeth Ysgol Cefn Coch Stryd yr Ysgol Penrhyndeudraeth Gwynedd LL48 6AE |
|
Swyddog Diogelu Data Ysgolion Cyngor Gwynedd Stryd y Castell Caernarfon Gwynedd LL55 1SH
|
Mae gennych hefyd yr hawl i:
- wrthwynebu i ddata personol gael ei brosesu sy’n debygol o achosi, neu sy’n achosi, niwed neu ofid
- atal unrhyw beth rhag cael ei brosesu er dibenion marchnata uniongyrchol
- gwrthwynebu i benderfyniadau gael eu gwneud gan ddulliau awtomataidd
- cywiro, rhwystro, dileu neu ddinistrio data personol anghywir, mewn amgylchiadau penodol; a
- hawlio iawndal am y niwed a achoswyd o ganlyniad i dorri rheoliadau Diogelu Data
Os oes gennych bryder ynglŷn â’r modd yr ydym yn casglu neu’n defnyddio eich data personol, gofynnwn i chi nodi eich pryder gyda ni i ddechrau. Fel arall, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy https://ico.org.uk/concerns/