Ein Gweledigaeth

Ein prif nod yw:

Datblygu dysgwyr gydol oes sy’n tyfu a ffynnu mewn awyrgylch hapus, gynhwysol a diogel.

Rydym am gyflawni’r nod yma drwy:

– Datblygu Ysgol sy’n gartrefol, hapus, diogel ac yn galon i’r gymuned

– Hybu arloesedd a mentergarwch mewn dysgwyr hyderus sy’n ymateb i fyd sy’n newid

– Datblygu pob dysgwr i’w lawn botensial a dathlu llwyddiannau ar draws y meysydd

– Datblygu dysgwyr sy’n parchu’u hunain, eu cyfoedion a’r gymuned

– Datblygu gwydnwch gan anelu at les pawb yng nghymuned yr ysgol

– Datblygu unigolion sy’n arddangos eu hymwybyddiaeth o’u hunaniaeth Gymreig a’r iaith ym mhob agwedd o’u bywydau.

Ein Gwerthoedd

Wrth holi holl rhanddeiliaid yr ysgol am eu barn ynglŷn â’r gwerthoedd sy’n bwysig i ni, daeth yn amlwg bod y farn yn gytûn am y 10  pwysicaf i blant, rhieni, llywodraethwyr a chymuned leol Ysgol Cefn Coch.

Gofalgar a chynhwysol

Yr ydym yn ysgol sy’n gofalu am bawb, ein cymuned a’r byd o’n cwmpas. Yr ydym yn trin pawb yn urddasol, yn deg a gyda pharch beth bynnag eu hil, crefydd, rhywioldeb a’u hanghenion.

Cymru a Chymreictod

 Ymfalchïwn yn ein hiaith a’n diwylliant gan sicrhau lle blaenllaw iddynt ym mywyd a gwaith yr ysgol. Parchwn hanes ein milltir sgwâr ynghyd â Chymru benbaladr a thu hwnt.

Gwytnwch

Yr ydym yn hyblyg ac yn barod i wynebu heriau’n hyderus ac i ddyfalbarhau wrth wynebu rhwystrau.

Creadigol ac Arloesol

Mae ein dysgwyr yn cael eu hannog a’u grymuso i fod yn greadigol, yn arloesol ac yn entrepreneuriaid.

Parch

Yr ydym yn barchus tuag at ein cyfoedion, oedolion, ein cymuned a’i chynefin a’r amgylchfyd. Gwerthfawrogwn y ffaith bod rhydd i bawb ei farn a bod llais pob unigolyn yn cael ei drysori.

Lles a Hapusrwydd

Yr ydym yn garedig, gan barchu teimladau, lles corfforol ac emosiynol pob aelod o deulu’r ysgol, fel bod pawb yn teimlo’n ddiogel. Wrth ofalu amdanom ein hunain a’n gilydd mewn ethos gynhaliol a diogel byddwn yn sicrhau bod y dysgwyr yn ffynnu ac yn awchus i ddysgu.

Y pethau nad ydym yn ildio arnynt

Ein nod yw cyfoethogi ac ehangu ein cwricwlwm drwy gyfleoedd dysgu drwy brofiad yn ein hardal leol a thu hwnt. Mae gan ein dysgwyr hawl i amrywiaeth o elfennau na allwn ildio arnynt sy’n cyfoethogi eu datblygiad personol.

  • Dysgwyr sy’n mwynhau dysgu: Y peth pwysicaf i ni wrth gynllunio yw sicrhau bod y dysgwyr yn mwynhau ac yn cael hwyl wrth ddysgu. Gweithiwn yn galed yma felly i sicrhau bod y profiadau dysgu yn ddiddorol a symbylus a bod ein haddysgu  a’n perthynas waith gyda’n dysgwyr yn ennyn brwdfrydedd a wynhad.
  • Yr iaith Gymraeg a‘n diwylliant: Y Gymraeg yw iaith weithredol yr ysgol o ddydd i ddydd. Yn yr ysgol mae ein dysgwyr yn dathlu’r iaith Gymraeg, diwylliant a threftadaeth Cymru trwy gydol eu gwaith. Sicrhawn ein bod yn ymgorffori egwyddorion y Siarter Iaith ym mhob agwedd o’n cwricwlwm.
  • Iechyd a Lles: Credwn yn gryf yn yr ysgol hon bod sicrhau a chynnal  parodrwydd dysgwyr i ddysgu yn greiddiol. I’r perwyl hwn croesawn y pwyslais cyfartal ar bob Maes Dysgu a Phrofiad a’u bod yn cynnwys Iechyd a Lles. Bydd yr ysgol yn parhau i ddatblygu ei harbenigedd yn y Maes hwn –  fel  ‘Ysgol sy’n wybodus am drawma’ a defnydd o raglenni megis  ‘ELSA’ a ‘Tyfu  trwy’r Tymhorau’. Yn ychwanegol i’r ochor feddyliol/emosiynol, un o’n hamcanion yw galluogi pob plentyn i fod yn hyddysg ym maes llythrennedd corfforol a mwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol gydol eu hoes. Rydym hefyd yn esblygu hinsawdd dosbarthiadau, Meddylfryd o Dwf a Phwerau Dysgu yn barhaus. Bydd gwaith yr ysgol gyda theuluoedd ac asiantaethau allanol hefyd yn cefnogi hyn.
  • Cynhwysiad ac ADY: Ymfalchïwn yng nghynhwysiant a gweithredwn fel ysgol gyfathrebu gyfeillgar. Mae ein Darpariaeth Gyffredinol yn cynnwys: addysgu dosbarth cyfan, gwahaniaethu effeithiol, gwaith grŵp cydweithredol, ymyriadau unigol a grwpiau bach, addasiadau priodol a rhesymol i alluogi mynediad i amgylchedd, cwricwlwm a chyfleusterau’r ysgol. Yn ystod eu cyfnod yn ein hysgolion, bydd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn gwneud cynnydd disgwyliedig yn eu dysgu o’u mannau cychwyn. Os nad yw plentyn yn gwneud cynnydd, byddwn yn casglu arsylwadau, yn defnyddio data asesu ac yn ceisio gweithio ar y cyd ag asiantaethau allanol, gweithwyr proffesiynol a rhieni/gofalwyr i nodi unrhyw anghenion dysgu ychwanegol. 
  • Profiadau cyfoethog y tu fewn a thu allan i’r dosbarth: Rydym yn rhoi bri ar ddatblygu dysgwyr annibynnol a chwilfrydig gydag amryw o weithgareddau tu fewn a thu allan i’r ystafell ddosbarth.
  • Datblygid Proffesiynol ein staff: Mae addysgu ardderchog yn hanfodol os ydym am wireddu’r 4 diben, ein gweledigaeth fel ysgol a gofynion Fframwaith y Cwricwlwm. Mae‘r ysgol yn sefydliad sy’n dysgu. Yr ydym yn cydweithio gydag athrawon eraill yn lleol er mwyn gwella ein harferion. Golyga hyn ein bod yn ymchwilio ac yn dysgu am addysgu effeithiol yn barhaus ac yn rhoi bri ar ddysgu proffesiynol ac ymarfer wedi ei selio ar ymchwil, er mwyn datblygu a gwella ein sgiliau addysgu.