CORFF LLYWODRAETHWYR FFEDERASIWN YSGOLION AFON DWYRYD
Cadeirydd
Y Cyng. Meryl Roberts
Is-gadeirydd
Clerc
Rhieni Llywodraethwyr
Rachel Campbell
Ysgol Cefn Coch
Gareth Cadwalader
Caryl Anwyl
Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol
Y Cyng. Gwynfor Owen
Ysgol Talsarnau
Y Cyng. Meryl Roberts
Dewi Lewis
Llywodraethwyr Cymunedol
Leonie Hughes
Ysgol Cefn Coch
Dylan Elis
Eirian Harris
Llywodraethwyr Cymunedol Ychwanegol
Eluned Williams
Ysgol Talsarnau
Cynrychiolwyr Staff Addysgu
Esyllt Rhys
Ysgol Cefn Coch
Alaw Roberts
Gwawr Jones
Rhian Lumb
Ysgol Talsarnau
Pennaeth
Gwion Wyn Owens
Rhieni Llywodraethwyr
Y Rhieni Llywodraethwyr yw eich cynrychiolwyr chi ar y Corff Llywodraethol. Os oes gennych fater yr hoffech ei drafod ynglŷn â bywyd yr ysgol, dylech gysylltu â hwy neu a’r Cadeirydd yn uniongyrchol.
Mae gan y Llywodraethwyr gyfrifoldebau neilltuol. Maent yn cyd-weithio er lles yr ysgol ac er lles addysg y plant.
Maent yn cyfarfod yn rheolaidd bob tymor –
(i) i ymateb i adroddiad y pennaeth;
(ii) i drafod a llunio polisïau / penderfyniadau (e.e. cyllideb yr ysgol; Cynllun Gwella)
Sefydlwyd is-baneli i ymdrin â materion penodol.
Caiff Adroddiad Blynyddol ei baratoi a’i ddosbarthu gan y Corff Llywodraethol yn ystod Tymor yr Hydref.
Eich hawl i ofyn am gyfarfod gyda chorff llywodraethu’r ysgol
Yn unol â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 mae modd i rieni ofyn am hyd at 3 chyfarfod gyda chorff llywodraethu mewn unrhyw flwyddyn ysgol, i drafod materion sy’n peri pryder iddyn nhw.
Os yw rhieni am arfer eu hawliau dan y Ddeddf i gynnal cyfarfod, bydd angen bodloni 4 gofyniad:
- Rhaid galw’r cyfarfod i drafod materion sy’n effeithio ar yr ysgol
Ni ellir galw cyfarfod i drafod materion fel cynnydd disgyblion unigol, neu er mwyn gwneud cwyn yn erbyn aelod o staff yr ysgol neu aelod o’r corff llywodraethu. Dylai’r ddeiseb gynnwys manylion cryno am y mater(ion) i’w trafod, a’r rhesymau dros alw’r cyfarfod. Dylid dangos yr wybodaeth honno’n glir ar frig y ddeiseb, a dylai’r rhieni lofnodi oddi tani.
- Bydd angen i rieni gyflwyno deiseb o blaid cynnal cyfarfod
Bydd angen i rieni o leiaf 10% o ddisgyblion cofrestredig yr ysgol lofnodi’r ddeiseb. Yn achos deiseb ar bapur, rhaid rhoi llofnod ysgrifenedig, yn ogystal ag enw a dosbarth pob plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol. Os yw’r ddeiseb yn un electronig, bydd angen i riant ‘lofnodi’ drwy deipio ei enw a bydd rhaid rhoi enw a dosbarth pob plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol a chyfeiriad e-bost pob rhiant sy’n ‘llofnodi’r’ ddeiseb electronig. Gallwch gysylltu â swyddfa’r ysgol i gael gwybod yn union faint sydd ar y gofrestr ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn.
- Ceir cynnal uchafswm o 3 chyfarfod yn ystod y flwyddyn ysgol
Mae’r gyfraith yn caniatáu i rieni arfer eu hawliau i ofyn am hyd at 3 chyfarfod gyda chorff llywodraethu ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol.
- Rhaid bod o leiaf 25 o ddiwrnodau ysgol ar ôl yn y flwyddyn ysgol
Mae’n amod dan y gyfraith fod o leiaf 25 o ddiwrnodau ysgol ar ôl yn y flwyddyn ysgol pan fo’r ddeiseb yn dod i law, a hynny fel y bo modd cynnal y cyfarfod. Ystyr “diwrnod ysgol” yw diwrnod pan fo’r ysgol yn agored i ddisgyblion: nid yw’n cynnwys penwythnosau, gwyliau cyhoeddus, gwyliau ysgol na diwrnodau Hyfforddiant mewn Swydd (HMS).
Dyma’r cyfeiriadau ar gyfer cyflwyno deiseb yn gofyn am gyfarfod gyda chorff llywodraethu’r ysgol:
Cadeirydd y Corff Llywodraethol
Ysgol Cefn Coch,
Stryd yr Ysgol,
Penrhyndeudraeth,
Gwynedd.
LL48 6AE
Adroddiad Blynyddol i Rieni