Manylion Cyswllt

Ysgol Cefn Coch,
Stryd yr Ysgol,
Penrhyndeudraeth,
Gwynedd,
LL48 6AE

Ffon: (01766) 770291

E-bost: pennaeth@cefncoch.ysgoliongwynedd.cymru

Oriau Dysgu Ysgol Cefn Coch

Amser y sesiynau:

Sesiwn y Bore: 9:00am – 12:00pm (Derbyn – Bl2)

                          9:00am – 12:05pm (Bl3 – Bl6)

                          9:00am – 11:00am (Meithrin)

 

Sesiwn y prynhawn: 1:00pm – 3:15pm (Derbyn – Bl2)

                                    1:00pm – 3:25pm (Bl3-6)

Polisi Derbyn i'r Ysgol

Mae’r ysgol yn gweithredu yn unol â pholisi derbyn Awdurdod Addysg Gwynedd fel a ganlyn:

  • Meithrin: Yn Rhan Amser yn dechrau Tymor yr Hydref yn dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed.
  • Derbyn: Yn Llawn Amser dechrau Tymor yr Hydref yn dilyn eu pen-blwydd yn 4 oed.

Nid oes trosglwyddiad awtomatig o’r Meithrin i’r Derbyn, a gan mai Awdurdod Addysg Leol Gwynedd yw’r Awdurdod Derbyn, bydd yr Awdurdod yn ystyried ceisiadau. Os digwydd bod mwy wedi dewis anfon eu plant i’r ysgol nag sydd o le ar eu cyfer ystyrir ceisiadau yn unol â’r meini prawf canlynol a restrir yn nhrefn blaenoriaeth:

  1. nifer y plant y gellir eu derbyn i’r ysgol (h.y. rhif derbyn yr ysgol ar gyfer bob blwyddyn ysgol);
  2. a yw’r rhiant wedi mynegi’i ddewis blaenoriaeth yn ysgrifenedig;
  3. yr ardal ddaearyddol a wasanaethir fel arfer gan yr ysgol (h.y. dalgylch diffiniedig) yn ôl yr Awdurdod;
  4. a oes gan y darpar ddisgybl frawd neu chwaer yn yr ysgol.

Er mwyn gwneud cais am le yn yr ysgol rhaid felly cyflwyno ceisiadau i Gyngor Gwynedd drwy’r ysgol cyn 1af o Chwefror yn flynyddol. Bydd y ffurflenni pwrpasol ar gael ar lein ar wefan Cyngor Gwynedd. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Cyngor Gwynedd.

Mynediad ysgolion / Symud ysgol (llyw.cymru)

Trosglwyddo Plant i'r Ysgol Uwchradd

Ar ddiwedd Blwyddyn 6 trosglwyddir eich plentyn, os dyna’ch dymuniad, i Ysgol Ardudwy, Harlech. Cyflwynir gwybodaeth berthnasol i chi mewn da bryd am yr ysgol hon a threfnir cyfle i’r plant dreulio tridiau fel cynllun pontio yno. Gwahoddir chwithau, fel rhieni, i gyfarfod y Pennaeth a’r Dirprwy Pennaeth.

Cyrraedd / Gadael yr Ysgol

Disgwylir i’r plant ddod i’r ysgol yn brydlon cyn 9:00am ond ni ddylai yr un plentyn fod ar dir yr ysgol cyn 8:50am (ar wahân i ddisgyblion sy’n mynychu Clwb Brecwast ysgol). Nid yw’r Pennaeth na unrhyw aelodau arall o’r staff yn gyfrifol am ddiogelwch unrhyw blentyn sydd ar dir yr ysgol cyn 8:50am

Disgwylir i riant ddod i nôl ei blentyn / plant erbyn yr amseroedd gadael (gweler oriau dysgu). Cofiwch roi gwybodaeth i ni yn yr ysgol, ac i’r plentyn, os bydd unrhyw newid yn nhrefniadau arferol ar gyfer codi plant o’r ysgol.

Cytundeb Cartref / Ysgol

Mae gan yr ysgol ‘Gytundeb Cartref / Ysgol’ sy’n nodi’r hyn a ddisgwylir gan yr ysgol o safbwynt ymrwymiad rhieni / gwarcheidwaid a disgyblion i gefnogi’r ysgol ynghyd ag ymrwymiad yr ysgol i gydweithio a darparu’r gwasanaeth gorau i rieni/ofalwyr a disgyblion.

Gohebiaeth

Rhoddir gwybodaeth reolaidd am weithgareddau’r tymor trwy gylchlythyrau, e-byst, cyfryngau cymdeithasol (Facebook ac Instagram) ac ap yr ysgol: Ourschool app. Mae’r ap hwn yn rhad ac am ddim i rieni ei lawrlwytho o’ch storfa ap. Bydd yr holl ohebiaeth yn ddwyieithog. Gofynnir yn garedig i chi ddarllen pob gohebiaeth yn ofalus os gwelwch yn dda.

ANGEN LINCS I’R CYFRYNGAU YN FAMA

Gwisg Ysgol

Mae gwisg ysgol yn rhan o draddodiad yr ysgol erbyn hyn. Mae gan yr ysgol wisg ysgol swyddogol. Er nad oes gorfodaeth ar blant i’w gwisgo teimlwn fod gwisg ysgol yn meithrin balchder tuag at yr ysgol ac ymdeimlad o berthyn iddi, ac felly mawr obeithiwn y byddwch chi, y rhieni’n, barod i gefnogi gwisg swyddogol yr ysgol.

Ysgol Cefn Coch

 

•      Crys polo gwyn.

•      Crys chwys/hwdi coch gyda logo’r ysgol.

•      Trowsus/sgert/siorts du neu lwyd.

•      Esgidiau du.

 

 

 

Gellir archebu’r rhain trwy gysylltu â Lake digital ar https://lakedigital.co.uk/cy/products/Ardudwy-Catchment-Area-c143812994

Er mwyn hwylustod, gofynnir i bawb roi enwau’r plant ar y dillad.

 

 

Gwisg Addysg Gorfforol

Mae angen dillad addas ar gyfer gwersi addysg gorfforol / chwaraeon. Sef:

  • Trowsus byr/ trowsus loncian
  • Crys-t / crys chwys,
  • Esgidiau addas,
  • a gwisg nofio ar adegau.
Ysgol di-arian parod

Mae’r ysgol yn gweithio ar system di-arian parod a rhoddir trefniadau mewn lle er mwyn i rieni gwneud taliadau ar-lein am wahanol bethau yn yr ysgol e.e. cinio ysgol, teithiau addysgol ayb gan ddefnyddio mynediad i’r we ar unrhyw declyn. Enw`r system ydy School Gateway. Mae talu ar-lein yn haws ac yn fwy diogel i ddisgyblion.

Clwb Gwarchod a'r Clwb Brecwast

Mae’r Clwb Gwarchod ar agor yn foreol o 8:05am tan 8:20am ar gyfer plant y dosbarth Meithrin a hŷn. Rhaid talu £1.00 am eich plentyn cyntaf ac ail am yr elfen gofal plant cyn y clwb brecwast. Mae disgownt ar gyfer teuluoedd o 3 neu fwy o blant cynradd sy’n defnyddio’r clwb gofal cyn-ysgol.

Mae’r drysau ar agor ar gyfer y Clwb Brecwast o 8:20am tan 8:50am. Nid oes ffi ar gyfer y Clwb brecwast. Yn ystod y cyfnod hwn gall y plant fwynhau tost a sudd ffrwythau yn ogystal â grawnfwyd.

Cynllun Llefrith

Darperir llefrith (1/3 o beint) yn rhad ac am ddim i bob plentyn meithrin i flwyddyn 2.

Dwr

Rhoddir potel dŵr clir i bob disgybl fel ag y maent yn cychwyn yn yr ysgol. Mae croeso i’r disgyblion lenwi’r botel gyda dŵr yn ystod y dydd. Gellir prynu poteli newydd yn yr Ysgol am £1.50. Dylai plant a rhieni fod yn gyfrifol am lanhau’r poteli bob dydd, gartref.

Ffrwythau

Ceisir annog y plant i fyw yn iach, felly ffrwyth yn unig a ganiateir amser chwarae.

Gofynnwn yn garedig i rawnwin fod wedi eu torri ar eu hyd i arbed y peryg o dagu.

Rydym yn ysgol ddi-gnau oherwydd od gennym blant sydd yn dioddef o alergedd i gnau a all beryglu eu bywyd.

Cinio Ysgol

Coginir y cinio yng nghegin yr ysgol. Ers Medi 2023, mae plant Dosbarth Derbyn i Blwyddyn 6 yn cael prydau ysgol am ddim yn awtomatig.

I blant fydd yn mynychu’r Cylch Meithrin ac yn dewis cael prydau ysgol bydd angen talu £2.50 y diwrnod (£12.50 yr wythnos).

LINK I’R FWYDLEN YN FAMA

Bocs Bwyd

Mae cegin yr ysgol yn darparu cinio maethlon i’n plant. Mae’r un mor bwysig i wneud yn siŵr bod y bocsys bwyd yn iach a chytbwys. Mae hyn yn golygu digon o fwydydd sy’n cynnwys mwy o faethynnau y mae plant eu hangen, a llai o fwydydd sy’n uchel mewn siwgr a braster dirlawn.

Dylai cinio pecyn cytbwys cynnwys:

  • Bwydydd â starts e.e. bara, reis, tatws a phasta, ayb.
  • Bwydydd â phrotein e.e. cig, pysgod, wyau, ffa ayb.
  • Bwydydd â chalsiwm e.e. caws neu iogwrt.
  • Ffrwythau neu salad, a digon o lysiau.

Byddwch yn ddyfeisgar ac anogwch eich plant i roi cynnig ar rywbeth newydd.

Ymweliadau

Trefnir ymweliadau yn ymwneud â’r themâu tymhorol. Bydd yr athrawon dosbarth yn ymchwilio i ymweliadau pwrpasol fydd yn cyfoethogi dysgu ac addysgu effeithiol. Gwahoddir siaradwyr gwadd i annerch y plant yn yr ysgol.

Mae disgyblion yn elwa’n fawr o gymryd rhan mewn ymweliadau. Wrth ychwanegu at y cwricwlwm ysgol, wrth gymryd rhan mewn ymweliadau o’r fath, caiff disgyblion gyfle i ymhél â gweithgareddau na fyddent, fel arall, yn cael profiad ohonynt, ac sy’n eu cynorthwyo i ddatblygu sgiliau pwysig mewn bywyd ac efallai yn rhoi atgofion hapus gydol eu bywyd.

Rydym yn trefnu un ymweliad preswyl pob blwyddyn ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6. Mae disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ymweld â Chaerdydd neu Gwersyll yr Urdd, Glan-llyn pob yn ail flwyddyn. Mae ymweld a Gaerdydd yn gyfle gwych i’r plant ddod i adnabod eu Prif ddinas ac i astudio ardal gyferbyniol.  Ceir cyfle i flasu amrywiaeth eang o weithgareddau awyr agored o dan arweiniad profiadol staff yn gwersyll Glan-llyn.

Gwaith Cartref

Yn ein hysgolion, rydym wedi cymryd dull unigryw tuag at waith cartref drwy beidio gosod gwaith cartref traddodiadol. Yn hytrach, rydym yn annog ac yn pwysleisio pwysigrwydd bod rhieni ymgysylltu ag addysg eu plentyn. Rydym yn annog rhieni i neilltuo amser bob dydd i ddarllen gyda’u plant, gan feithrin cariad at lenyddiaeth a gwella eu sgiliau darllen. Yn ogystal, gofynnwn i rieni mynd dros y tablau a’r pedwar gweithred fathemategol sylfaenol (adio, tynnu, lluosi, a rhannu) gyda’u plant, er mwyn sicrhau sylfaen gref i’w sgiliau mathemateg. Drwy ymgysylltu ag addysg eich plant, rydych chwarae rôl hanfodol i gefnogi twf a datblygiad academaidd eich plentyn.

Gallwch hefyd gyfoethogi addysg eich plentyn:

  • trwy sgwrs reolaidd, nid yn unig am y diwrnod ysgol ond am ddigwyddiadau eraill o bwys,
  • trwy drefnu ymweliadau achlysurol i leoedd diddorol,
  • trwy wneud defnydd o’r cyfleusterau lleol; e.e. parc; traeth; llyfrgell; siop lyfrau; ac yn y blaen
  • trwy gyd-chwarae gemau amrywiol a hwyliog … a llawer iawn mwy!
Gweithgareddau Allgyrsiol

Mae gan ein hysgolion raglen gyfoethog o weithgareddau allgyrsiol sy’n agored i holl ddisgyblion yr ysgol sydd ym marn y Pennaeth yn aeddfed ac yn barod i gymryd rhan ynddynt. Mae’r gweithgareddau yn cynnwys cystadlu mewn Eisteddfodau, perfformio mewn cyngherddau, rhaglen chwaraeon a Chlybiau amrywiol.

YR URDD

Bydd clwb yr Urdd yn cyfarfod yn achlysurol ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion y Blynyddoedd 3 i 6 ar y ddwy safle. Caiff aelodau Urdd gyfle i gystadlu yn holl weithgareddau’r Urdd gan gynnwys Eisteddfodau a chwaraeon.

CHWARAEON

Byddwn yn annog y plant i fwynhau chwaraeon o bob math. Ymgymerir ag amrywiaeth eang o weithgareddau chwaraeon yn ystod y flwyddyn lle y bydd y plant yn cynrychioli’r ysgol. Mae’r rhain yn cynnwys nofio, rygbi, kwik criced, pêl-rwyd, pêl droed, gymnasteg, athletau, cyfeiriannu a rhedeg trawsgwlad. Mae’r ddwy ysgol hefyd yn cynnal Clwb Ffitrwydd yn achlysurol.

Mae unrhyw blentyn sy’n cymryd rhan yn cynrychioli’r ysgol a chydnabyddir hyn fel braint sy’n gyfartal a chyflawniad academaidd ac artistig. Mae hefyd yn meithrin ysbryd cyd-dynnu ac yn datblygu sgiliau. Rydym yn anelu i roi cyfle i blant o bob gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau cystadleuol.

Gwersi Offerynnau

Mae cynllun Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd yn bodoli yn ein hysgolion sydd yn cynnig gwersi offerynnol i blant gan gynnwys gwersi dryms, piano a gitâr. Mae’r gwersi yma yn cael eu cynnal gan athrawon peripatetig yn wythnosol yn yr ysgol.

Mae chwarae offeryn yn ymrwymiad tymor hir ond gwerth chweil, gyda chostau ynghlwm sydd a’r hyn o bryd yn gost o £30 am 10 gwers y tymor.

Cymdeithas Cyfeillion yr Ysgol

Mae’r Gymdeithas Gyfeillion wedi hen sefydlu yn y ddwy ysgol bellach. Bwriad ac amcanion y Gymdeithas yw codi arian ar gyfer yr ysgol , cynnig gweithgareddau diddorol i’r plant yn ogystal â bod yn gyfrwng i’r rhieni i ddod i adnabod ei gilydd yn well.

Cynhelir Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas yn fuan ar ôl dechrau’r flwyddyn ysgol ym mis Medi. Mae croeso i bob un ohonoch i fod yn aelodau o’r gymdeithas hon. Byddwch cystal â chefnogi’r Gymdeithas yn eu hymdrechion, a cheisio mynychu cymaint o gyfarfodydd ag y bo modd. Po fwyaf llwyddiannus y gall y gymdeithas hon fod, po fwya’r enillion i’r ysgol.

LINK I  FACEBOOK CYFEILION

Cysylltiad Rhwng Rhieni a'r Ysgol

Mae cefnogaeth a chymorth rhieni a’r gymuned yn ffactor bwysig iawn yn llwyddiant yr ysgol, ac yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan y Llywodraethwyr, Y Pennaeth, a’r staff. Mae sawl ffordd effeithiol  y gall rhieni gefnogi a chyfrannu at fywyd a llwyddiant yr ysgol:

  • dangos brwdfrydedd a diddordeb yn natblygiad eich plentyn drwy ddod i gyfarfodydd i drafod gwaith eich plentyn gyda’r athro/athrawes.
  • Yn ogystal â chael ymweld yn unigol â’r ysgol, caiff rhieni hefyd gyfleoedd ffurfiol dair gwaith y flwyddyn i weld neu drafod y gwaith a wneir yn yr ysgol. Rhoddir adroddiad llawn am waith y disgyblion ar ddiwedd pob blwyddyn ysgol.
  • cefnogi eich plentyn wrth iddo-iddi ddysgu darllen. Mae plant ifanc sydd yn treulio cyfnod yn rheolaidd gyda’u rhieni yn edrych ar lyfrau, gwrando ar eu rhieni yn darllen, a darllen i’w rhieni yn fwy tebygol o feistroli sgiliau darllen a dod i fwynhau a chael pleser o ddarllen wrth dyfu. Mae hyn yn ei dro yn helpu’r plentyn ddatblygu sgiliau iaith, cael geirfa dda, ac yn ehangu gorwelion y plentyn .
  • cefnogi eich plentyn i ddysgu tablau mathemateg ar y cof. Mae plant sydd yn deall bondiau rhif ac yn gwybod eu tablau yn drwyadl yn gweld gwaith rhif lawer yn haws. Maent hefyd yn gallu addasu’r wybodaeth ar gyfer dysgu sgiliau mathemategol newydd sydd yn sylfaen dda ar gyfer eu gyrfa ysgol.
  • dod i weithgareddau a chyfarfodydd yn yr ysgol – er enghraifft, nosweithiau agored, Ffair Lyfrau, Pasiant a Chyngherddau Nadolig, Mabolgampau. Ar gyfer rhai o’r gweithgareddau yma mae angen cymorth ychwanegol e.e. darparu gwisgoedd ar gyfer cynyrchiadau.
  • dod i weithgareddau a chyfarfodydd Cyfeillion yr Ysgol. Mae’r arian sydd yn cael ei gasglu gan y Cyfeillion yn cael ei defnyddio ar gyfer budd holl blant yr ysgol – er enghraifft, talu am drafnidiaeth i fynd â phlant ar ymweliadau addysgol, prynu offer ychwanegol fel offer technoleg gwybodaeth a.y.y.b.
  • Mae gan nifer o rieni ac aelodau eraill o deuluoedd estynedig sgiliau neu wybodaeth arbenigol, neu brofiad personol allai fod yn cyd-fynd â thema neu weithgaredd dosbarth neu’r ysgol gyfan. Yn achlysurol mae’r ysgol yn gwadd unigolion cymwys i ddod i’r ysgol i rannu eu profiadau neu sgiliau, ac rydym yn croesawu gwybodaeth am unigolion fyddai’n gallu cyfrannu yn y ffordd yma.

Mae’r ysgol a gwaith ysgol yn rhan annatod o fywyd plentyn. Mae cael rhiant sydd yn frwdfrydig a chefnogol i’r elfen hon ym mywyd plentyn yn cryfhau’r berthynas bwysig rhwng y plentyn, y rhiant, a’r ysgol.

Gwyliau Ysgol

TYMOR:

Hydref 2024 2 Medi 2024 – 20 Rhagfyr 2024

Gwanwyn 2025 6 Ionawr 2025 – 11 Ebrill 2025

Haf 2025 28 Ebrill 2025 – 21 Gorffennaf 2025

GWYLIAU:

28 Hydref – 1 Tachwedd 2024 (Hanner-Tymor)

23 Rhagfyr 2024 – 3 Ionawr 2025 (Gwyliau’r Nadolig)

24 – 28 Chwefror 2025 (Hanner-Tymor)

14 – 25 Ebrill 2025 (Gwyliau’r Pasg)

5 Mai 2025 (Calan Mai)

26 – 30 Mai 2025 (Hanner-Tymor)

22 Gorffennaf – 29 Awst 2025 (Gwyliau’r Haf)